Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 7 Gorffennaf 2014 |
|
|||
Amser: |
14.00 - 15.30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2014(10) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd (Swyddog) Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog) Mike Snook, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Swyddog) Nerys Evans (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Eric Gregory
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Roedd Angela Burns AC a David Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin.
2 Cyllideb ddrafft 2015-16
Yn unol â thrafodaethau blaenorol, roedd y Comisiynwyr yn parhau i ystyried y byddai cyllideb 2015-16 yn cael ei rheoli'n unol â newidiadau i floc Cymru, ac eithrio'r eitemau hynny sydd y tu allan i reolaeth y Comisiwn. Byddai gwaith yn cael ei gwblhau dros yr haf i gynllunio ar gyfer effaith y cynnydd disgwyliedig yng nghostau pensiynau PCSPS a byddai'r Comisiwn yn cael cyngor terfynol ynglŷn â'r gyllideb ddrafft derfynol ym mis Medi. Nododd y Comisiynwyr nad oedd rhagor o wybodaeth ar gael gan Swyddfa'r Cabinet.
3 Gwneud y gorau o ystâd y Cynulliad
Cwblhawyd nifer o ychwanegiadau a gwelliannau yn ystod y 12 mis diwethaf ac maent wedi gwella'r amgylchedd i'r rhai sy'n gweithio ar Ystâd y Cynulliad neu'n ymweld â hi. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i drefniadau diogelwch Tŷ Hywel a'r dderbynfa sydd wedi gwella profiadau ymwelwyr yn arw a chrewyd hefyd ystafelloedd cyfarfod lle gall yr Aelodau gyfarfod â'r rhai sy'n ymweld â'r adeilad, mae arwyddion newydd wedi'u gosod ger y Senedd ac mae rhai o'r cyfleusterau wedi'u gwella. Yn dilyn adborth gan yr Aelodau, mae'r system wresogi wedi'i gwella i greu amgylchedd gwaith mwy cyfforddus yn y Senedd, y Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora a'r swyddfeydd. Byddai gwaith yn cael ei wneud dros doriad yr haf i adnewyddu gweddill y toiledau yn Nhŷ Hywel.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau ystyried meysydd eraill i'w gwella fel rhan o waith cynnal a chadw parhaus. Yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, dylid rhoi blaenoriaeth i wella'r safleoedd hynny a gaiff eu defnyddio gan y nifer sylweddol sy'n ymweld ag Ystâd y Cynulliad, fel y Pierhead a'r ystafelloedd cynadledda yn Nhŷ Hywel. Dylai'r tîm hefyd ystyried unrhyw adborth sy'n codi yn yr arolwg blynyddol o'r Aelodau a'u staff cymorth, a fydd ar gael yn ystod toriad yr haf.
Byddai'r tîm yn cysylltu â Grwpiau Plaid i nodi unrhyw newidiadau angenrheidiol (fel dodrefnu swyddfeydd yr Aelodau a'r Grwpiau) i sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion. Byddai unrhyw waith mawr yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod diddymu rhwng y Pedwerydd a'r Pumed Cynulliad, i amharu cyn lleied â phosibl ar yr Aelodau a'u staff.
Awgrymwyd hefyd y dylid archwilio'r posibilrwydd o godi wal wydr yn neuadd Siambr Hywel i greu lle hyblyg ychwanegol ar gyfer digwyddiadau etc.
4 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith a wnaed i gyflawni Nodau Strategol y Comisiwn rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2014.
Byddai gwaith y Cynulliad ar ymgysylltu â phobl ifanc yn cael ei lansio ar 16 Gorffennaf i arddangos y gwaith ardderchog roedd y Cynulliad wedi'i wneud eisoes yn y maes hwn ac i gyflwyno gweledigaeth y Comisiwn ar gyfer gwella gwasanaethau ymgysylltu â phobl ifanc. Mae nifer o weithgareddau'n cael eu trefnu, gan gynnwys digwyddiad Hawl i Holi gyda phanel o Aelodau'r Cynulliad, llofnodi Siarter Pobl Ifanc gan Arweinwyr y Pleidiau a datganiad gan y Llywydd yn y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y Comisiynwyr y materion a ganlyn hefyd:
· ceisiadau rhyddid gwybodaeth;
· dirwyn y contract ag Atos i ben erbyn diwedd mis Gorffennaf;
· cyhoeddi a thrafod Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol;
· y streic arfaethedig ar 10 Gorffennaf; a
· dod â phrotest unigolyn sydd ar streic newyn ar Ystâd y Cynulliad i ben.
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn anfon negeseuon trydar yn ddiweddar yn ystod ei drafodion. Trafododd y Comisiynwyr werth y math hwn o weithgaredd o safbwynt ymgysylltu â'r cyhoedd. Cytunwyd y dylid rhoi'r gorau i drydar yn ystod trafodion byw'r pwyllgor nes bod effaith a gwerth ychwanegol y gweithgaredd wedi'i fesur. Dywedodd y Comisiynwyr fod angen paratoi polisi cyfryngau cymdeithasol iddynt ei drafod.
5 Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y wybodaeth ddiweddaraf o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf
Roedd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad wedi cyfarfod y diwrnod hwnnw. Rhoddodd Claire Clancy adroddiad ar yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod.
Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi paratoi adroddiad ar gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad a byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn llofnodi'r rhain gan roi barn ddiamod arnynt. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi bod angen rhoi rhagor o sylw i'r prosiect Adnoddau Dynol a'r gyflogres ac roedd y pwyllgor yn fodlon bod gwaith craffu digonol wedi'i gynnal yn y cyswllt hwn.
Nid oedd unrhyw faterion yn peri pryder yn dilyn yr archwiliad a'r adolygiad o lwfansau'r Aelodau, gan gynnwys recriwtio staff cymorth.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai'r Prif Weithredwr lofnodi'r cyfrifon.
6 Adroddiad blynyddol ACARAC
Rhaid i Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad gyflwyno Adroddiad Blynyddol ar ei waith i'r Comisiwn bob blwyddyn. Cyflwynwyd yr adroddiad gan Eric Gregory, sy'n cadeirio'r pwyllgor ers dechrau'r flwyddyn, a thynnodd sylw at y canlynol:
· roedd y pwyllgor wedi mabwysiadu rhai trefniadau newydd i gryfhau ei waith, gan gynnwys gwella trefniadau rheoli risg corfforaethol ac adolygu ei effeithiolrwydd ei hun o fewn y flwyddyn;
· roedd y pwyllgor o'r farn bod trefniadau rheoli risg a llywodraethu cyffredinol y Comisiwn yn gryf iawn a bod cysondeb effeithiol rhwng nodau ac amcanion strategol a gweithgareddau a phrosiectau;
· mae'r prosiect Dyfodol TGCh wedi bod yn rhaglen enghreifftiol a reolwyd yn ôl amcanion clir ac iddi system oruchwylio, llywodraethu a chynllunio gref o fewn y sefydliad, gan gynnwys gan y Comisiwn;
· roedd y gwaith a wnaed i sicrhau gwerth am arian yn golygu bod y Comisiwn mewn sefyllfa dda; ac
· roedd swyddogaeth archwilio mewnol y Comisiwn yn gweithio'n eithriadol o dda ac roedd Pennaeth newydd Archwilio Mewnol yn gwneud cynnydd sylweddol.
Yn ystod y flwyddyn nesaf byddai'r pwyllgor yn canolbwyntio ar y meysydd y ganlyn:
· ymwreiddio'r gwersi a ddysgwyd yn dilyn y prosiect Adnoddau Dynol a'r Gyflogres;
· adolygu'r system rheoli perfformiad ar gyfer staff y Comisiwn;
· adolygu'r gofrestr risg gorfforaethol yn rheolaidd;
· cynlluniau parhad busnes;
· adolygu'r fframwaith sicrwydd cyffredinol a gofalu bod y trefniadau newydd ar gyfer TGCh yn arwain at y manteision a ragwelwyd.
Diolchodd y Comisiynwyr i Eric am ei waith gyda'r pwyllgor yn ystod y flwyddyn ac am ei gyfraniad i'r cyfarfod. Cytunwyd y dylai'r Comisiynwyr chwilio am ragor o gyfleoedd i drafod gwaith y pwyllgor yn y dyfodol.
7 Papur i'w nodi - Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2014
Nodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg - cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin
8 Unrhyw Fusnes Arall
Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Medi. Byddai'r Comisiynwyr yn trafod cyllideb ddrafft 2015-16 cyn iddi gael ei chyflwyno gerbron y Cynulliad.
Byddai Rhodri Glyn Thomas a Peter Black yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 16 Gorffennaf i roi tystiolaeth am berfformiad y Comisiwn ym maes gwasanaethau TCGh a dwyieithrwydd.
Caiff Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2013-14 ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Gorffennaf.
Yr
Ysgrifenyddiaeth
Gorffennaf 2014